Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 5
Mawrth 2019
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Mae’r Llywydd wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog.
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(30 munud)
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(0 munud)
(45 munud)
(0 munud)
(15 munud)
NDM6979 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai’r darpariaethau yn y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid Gwasanaeth), sy’n gysylltiedig ag Iechyd a Lles Anifeiliaid, i’r graddau y maent o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y DU.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Ionawr 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Mae copi o’r Bil i’w weld ar wefan Senedd y DU:
https://services.parliament.uk/bills/2017-19/animalwelfareserviceanimals.html
Dogfen Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
(30 munud)
NDM6964 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018-19 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth, 5 Chwefror 2019.
Troednodyn:
Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:
i. y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;
ii. yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
iii. cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
iv. cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;
v. cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a
vi. manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.
Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:
- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.
NNDM6984 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), 12.22(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i ddadl ar NNDM6985 gael ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 5 Mawrth.
(90 munud)
NNDM6985 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn ailadrodd ei wrthwynebiad i’r cytundeb niweidiol ar gyfer ymadael â’r UE y cytunwyd arno gan Lywodraeth y DU.
2. Yn cytuno y byddai canlyniad o ddim-cytundeb yn dilyn y negodiadau presennol ar ymadael â’r UE yn hollol annerbyniol ar 29 Mawrth 2019 neu ar unrhyw adeg.
3. Yn galw felly ar Lywodraeth y DU i gymryd camau ar unwaith i atal y DU rhag ymadael â’r UE heb gytundeb ac yn cytuno y dylai proses Erthygl 50 gael ei hestyn fel bod modd dod i gytundeb ar y ffordd orau ymlaen er mwyn diogelu buddiannau Cymru, yr Alban a’r Deyrnas Unedig gyfan.
Cyd-gyflwynwyr:
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Gareth Bennett (Canol De Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn dwyn i gof fod Llywodraeth y DU, cyn y refferendwm ym mis Mehefin 2016, wedi anfon llyfryn at bob aelwyd yn y Deyrnas Unedig, yn datgan, o dan y pennawd 'Penderfyniad Unwaith Mewn Cenhedlaeth', 'Cred y Llywodraeth mai pleidleisio dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd yw’r penderfyniad gorau i’r D.U.', ond hefyd, 'Chi sydd i benderfynu. Bydd y Llywodraeth yn gweithredu ar eich penderfyniad.'.
2. Yn credu mai modd drefnus o adael yr Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth 2019 fyddai orau, ond yn penderfynu, os na ellir cael cytundeb rhwng y Deyras Unedig a'r Undeb Ewropeaidd, na ddylid ymestyn proses Erthygl 50, gan y byddai hyn yn parhau'r ansicrwydd ac yn bradychu ewyllys ddemocrataidd pobl Cymru a'r Deyrnas Unedig, a bleidleisiodd yn bendant dros adael yr UE.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i dderbyn y tebygolrwydd y byddwn yn gadael yr UE ar delerau Sefydliad Masnach y Byd ar 29 Mawrth 2019, a chanolbwyntio ein holl ymdrechion erbyn hyn ar baratoi ar gyfer y canlyniad hwn.
Gwelliant 2 – Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu mai'r ffordd orau ymlaen yw cynnal pleidlais y bobl, er mwyn galluogi dewis democrataidd rhwng cytundeb y Prif Weinidog ar gyfer ymadael â'r UE ac aros yn yr UE , ac yn galw ar Lywodraeth y DU i amlinellu ei chynlluniau i gynnal pleidlais o'r fath ar unwaith.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 6 Mawrth 2019